Celebrating the Festive Season
Welsh Spoken Conversation
Conversation
The Davies family are back at home to celebrate the festive season. Everyone is here except Mark, who is late arriving from his workplace.
Mae'r teulu Davies yn ôl adref i ddathlu'r Gwyliau. Mae pawb yma heblaw Mark, sy'n hwyr yn cyrraedd o'i waith.
When's Dad coming?
Pryd mae Dad yn dod?
Jay
He just text me to say he's left work and should be here any minute now. Did you manage to get Sunday off work by the way?
Mae newydd anfon neges destun ata i i ddweud ei fod wedi gadael y gwaith ac mi ddylai fod yma unrhyw funud nawr. Wnest ti lwyddo i gael dydd Sul i ffwrdd o'r gwaith, gyda llaw?
Natasha
Yeah, but I have to make up the hours another day.
Do, ond mae'n rhaid i fi wneud iawn am yr oriau ar ddiwrnod arall.
Jay
I thought they'd at least give you the day off. Why do you need to make up the hours?
Ro'n i'n meddwl y bydden nhw o leiaf yn rhoi diwrnod i ffwrdd i ti. Pam mae angen i ti wneud iawn am yr oriau?
Ellie
They're short-staffed at the moment, and it's always busy this time of year.
Maen nhw'n brin o staff ar hyn o bryd, ac mae hi bob amser yn brysur yr adeg yma o'r flwyddyn.
Jay
Fair enough.
Digon teg.
Ellie
Let's forget about work for now. Why don't we put some music on?
Gad i ni anghofio am y gwaith am y tro. Pam na wnawn ni roi ychydig o gerddoriaeth ymlaen?
Natasha
It better not be anything Jay likes!
Dim byd mae Jay yn ei hoffi, gobeithio!
Ellie
My taste in music isn't that bad!
Dyw fy chwaeth mewn cerddoriaeth ddim mor ddrwg â hynny!
Jay
Natasha puts on some festive music and turns to look outside the window. She sees her husband Mark down the road, walking towards the house.
Mae Natasha yn rhoi cerddoriaeth Nadoligaidd ymlaen ac yna'n troi i edrych allan drwy'r ffenest. Mae hi'n gweld ei gŵr, Mark, i lawr y ffordd, yn cerdded tuag at y tŷ.
Dad's here! I'll go and get the dinner ready.
Mae Dad yma! Mi wna i gael swper yn barod.
Natasha
Mark enters the house wearing a thick woolly jumper.
Mae Mark yn cerdded i mewn i'r tŷ yn gwisgo siwmper wlanog drwchus.
Nice jumper, Dad!
Hoffi'r siwmper, Dad!
Jay
I bet you're warm in that!
Ti siŵr o fod yn gynnes ynddi!
Ellie
Thanks, but actually it's still cold outside with this on. And the pavements are very slippery.
Diolch – ond hyd yn oed gyda hon, mae'n dal i fod yn eithaf oer tu allan. Ac mae'r palmentydd yn llithrig iawn.
Mark
Hi honey, how was work?
Helô cariad, sut oedd gwaith?
Natasha
Not too bad, but I'm glad to be home.
Ddim yn rhy ffôl, ond dwi'n falch o fod adref.
Mark
Let's all sit at the table. Dinner's nearly ready!
Gadewch i ni i gyd eistedd wrth y bwrdd. Swper bron yn barod!
Natasha
The family sit at the table and enjoy a delicious meal together. While eating dessert, Ellie turns to look outside as her eyes light up.
Mae'r teulu'n eistedd wrth y bwrdd ac yn mwynhau pryd o fwyd blasus gyda'i gilydd. Wrth fwyta pwdin, mae Ellie yn troi i edrych drwy'r ffenest ac mae ei llygaid yn goleuo.
It's snowing!
Mae hi'n bwrw eira!
Ellie
The whole family turn to look out the window and notice the ground is already covered in a light dusting of snow.
Mae'r teulu cyfan yn troi i edrych drwy'r ffenest ac yn sylwi bod haenen denau o eira eisoes ar lawr.
Looks like I made it home just in time!
Mi wnes i gyrraedd adref mewn pryd!
Mark
Why don't we all head outside after we finish dessert?
Beth am i ni fynd allan ar ôl gorffen ein pwdin?
Jay
Sounds like a plan!
Syniad da!
Natasha
Once the family finish their meal, they head outside in the snow, not forgetting their woolly hats and scarfs.
Ar ôl i'r teulu orffen eu pryd, maen nhw'n mynd allan i'r eira, heb anghofio eu hetiau gwlân a sgarffiau, wrth gwrs!
Vocab review
cold
oer
home
cartref (m)
meal
blawd (m)
scarf
sgarff (f)
season
tymor (m)
snow
eira (m)
Thoughts on this video?